Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2014 Rhif (Cy. )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Gwneir y Gorchymyn hwn o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“y Ddeddf”).

O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig ym mhob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio yn unol â pharagraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf. Mae 2014 yn flwyddyn pan nad oes rhestrau newydd yn cael eu llunio. Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B yn cynnwys eitem B, sef y mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw.

Mae paragraff 5(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, fodd bynnag, yn galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, drwy orchymyn, swm amgen ar gyfer eitem B. Os yw Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer hwnnw mewn perthynas â blwyddyn ariannol rhaid i’r swm amgen a bennir felly fod yn is na’r mynegai prisiau manwerthu ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2014 mae’r Gorchymyn hwn yn pennu mai swm eitem B fydd 249.

Ni fydd y Gorchymyn yn dod i rym ond os yw’n cael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad”) cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2014. O dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i’r Ddeddf ni fydd gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i’r Ddeddf, wrth ei gymhwyso i flwyddyn ariannol benodol, yn dod yn effeithiol oni fo wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad cyn i’r Cynulliad gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn, neu cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn ariannol flaenorol (pa un bynnag sydd gynharaf).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth y Gangen Bolisi Trethu Lleol, Yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

 

 


Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

2014 Rhif (Cy. )

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym  yn unol ag erthygl 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Trysorlys gan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru([2]).

Gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo, yn unol â pharagraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([3]).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2014.

(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir([4]).

(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Y lluosydd ardrethu annomestig

2. At ddibenion paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2014, pennir mai 249 yw B.

 

 

 

 

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth, un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

 



([1])           1988 p.41.

([2])           Mae’r pwerau o dan baragraff 5(3) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1988 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru. Yr oeddent wedi eu breinio’n flaenorol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo. Yn rhinwedd paragraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), trosglwyddwyd hwy i Weinidogion Cymru.

([3])           Mewnosodwyd paragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 gan baragraff 25(2) o Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26). Fe’i hamnewidiwyd gan baragraff 39(4)(d) o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) 2007 (O.S. 2007/1388).

([4])           O dan baragraff 5(15) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 ni fydd gorchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5(3) o’r Atodlen honno, wrth ei gymhwyso i flwyddyn ariannol benodol (gan gynnwys gorchymyn sy’n diwygio neu’n dirymu gorchymyn arall), yn dod yn effeithiol oni fo wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru cyn i’r Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo’r adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn, neu cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn ariannol flaenorol (pa un bynnag sydd gynharaf).